Camu i'r Copa - Canolfan Cyfeirio Disgyblion

logo_Camu_i'r_Copa

Fel Pennaeth Camu i’r Copa, mae’n bleser gennyf eich croesawu i’n Canolfan Cyfeirio Disgyblion, lle mae pob person ifanc yn cael eu rhoi wrth galon eu taith ddysgu eu hunain. Rydym yn deall y heriau unigryw sydd gan ddisgyblion sydd wedi gwynebu eithriad a thrawma, ac rydym yn ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, gofalgar, ac o safon uchel lle mae pob dysgwr yn teimlo’n werthfawr, yn cael eu parchu, ac yn cael cefnogaeth i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae ein gwasanaeth yn seiliedig ar sylfaen o berthyn, parchu a gobaith. Rydym yn cydnabod pob disgybl fel unigolyn gyda’u llais, eu cryfderau, a’u profiadau eu hunain. Trwy gydweithio gyda theuluoedd, ysgolion, a’r gymuned ehangach, rydym yn ceisio creu teimlad cryf o berthyn a grymuso, gan alluogi pob dysgwr i adeiladu hyder a sgiliau ar gyfer eu dyfodol.

Rydym yn ymroddedig i ddatblygu cwricwlwm a fframweithiau asesu wedi’u teilwra i anghenion ein disgyblion, gan sicrhau cynnydd a chanlyniadau cadarnhaol yn eu haddysg ac yn eu bywydau.

Diolch am ymddiried ynom i gefnogi’ch disgyblion ac am gydweithio gyda ni ar y daith bwysig hon. Gyda’n gilydd, gallwn helpu pobl ifanc i oresgyn rhwystrau a chamu’n hyderus tuag at lwyddiant.


Deio Brunelli
Pennaeth, Camu i’r Copa

TaflenCamui'rCopa

 

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

Mae’r Gwasanaeth yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag:

Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

  • Gwneud yn siŵr bod gan ysgolion Gwynedd ddarpariaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol yn eu hysgolion.
  • Gwneud yn siŵr bod arweiniad a hyfforddiant penodol ar gael i ysgolion gynllunio’n effeithiol ar gyfer ymateb a chyfarch anghenion disgyblion.
  • Cynnig ymyraethau sydd wedi’u teilwra ar gyfer beth mae disgybl ei angen.
  • Cynnig aelod o’r tîm i weithio am amser penodol i hyfforddi ac i rannu arfer dda yn yr ysgolion er mwyn cefnogi dysgwyr i gyflawni targedau.
  • Lleoliad mewn canolfan arbenigol os yw’r anghenion yn cwrdd â’r meini prawf mynediad.

 

Llwybr A

 

Llwybr B

 

Llwybr C

 

Pwy ydi’r tîm?

Deio Brunelli –  Pennaeth Canolfannau Cyfeirio Disgyblion

 

Llwybr A

Lisa Jones- Athrawes Mewn Gofal

Gareth Hughes – Athro Cynnal Ymddygiad

Lora Topliss – Athrawes Cynnal Ymddygiad

Roberta Williams – Athrawes Cynnal Ymddygiad

Nicci Jones – Athrawes Cynnal Ymddygiad

Sioned Atherton – Uwch Gymhorthydd Cynnal Ymddygiad

Lowri Williams - Uwch Gymhorthydd Cynnal Ymddygiad

Sioned Morris - Cymhorthydd Cynnal Ymddygiad

 

Llwybr B

Caren Williams - Athrawes Mewn Gofal

Caryl Jarman – Uwch Gymhorthydd Cynnal Ymddygiad

Stacey Davies – Cymhorthydd Cynnal Ymddygiad

 

Llwybr C

Sian Emlyn Jones – Athrawes Mewn Gofal

Francine Thomas –  Uwch Gymhorthydd Cynnal Ymddygiad

Aled Owen – Uwch Gymhorthydd Cynnal Ymddygiad

Medi Wilkinson – Uwch Gymhorthydd Cynnal Ymddygiad

Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?

Mae angen i’r ysgol wneud cyfeiriad i’r Fforwm Ardal os yn dymuno cael mewnbwn i’r disgybl am gan y Gwasanaeth  Cynhwysiad.

Cyn gwneud cyfeiriad i’r fforwm, mae’n bwysig bod yr ysgol wedi gweithredu ar lefel ysgol ac ymateb yn raddoledig er mwyn cyfarch anghenion y dysgwyr.

 

Beth yw rôl yr ysgol?

Mae disgwyl i bob ysgol gynnig cyfleoedd i gefnogi a datblygu sgiliau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol y dysgwyr.

Dylai ysgol:

  • Sefydlu systemau cymhelliant unigol i’r dysgwyr yn ôl yr angen.
  • Mynediad at ddarpariaeth/ ymyrraeth llythrennedd emosiynol.
  • Ymateb yn raddoledig i anghenion disgyblion.
  • Datblygu awyrgylch dysgu sy’n gyfeillgar a chynhwysol i unigolion ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol.