Swyddogion Ansawdd
Mae Swyddogion Ansawdd ADY yn gweithio i’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad yng Ngwynedd.
|
Haf Roberts
|
|
Lora Glynwen Williams
|
|
Clare Trappe Roberts
|
|
Non Samuel
|
|
Sioned Grabowski Hughes
|
|
Falmai Ellis
|
Mae’r Swyddogion Ansawdd ADY yn gyfrifol am sicrhau fod ysgolion yn ymateb i’r newid yn y Ddeddfwriaeth ADY drwy gefnogi a rheoli’r newid. Cynnig cymorth a chefnogaeth i ysgolion a rhieni er mwyn sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth i ddisgyblion ADY Gwynedd o fewn cyd-destun y ddeddfwriaeth newydd
Maent yn gyfrifol am gynnig a rhoi:
- Cynhaliaeth ADY a Chynhwysiad - dogfennau, arweiniad
- Arweiniad a chyngor i Gydlynwyr ADY newydd
- Cynnig arweiniad ar adolygiadau Cynllun Datblygu Unigol (CDU) disgyblion CDU Awdurdod Lleol dwysaf
- Pwynt cyswllt pontio disgyblion ADY Blwyddyn 6 a Blwyddyn 11
- Arweiniad ar gynllunio’n strategol ysgol gyfan
- Monitro ansawdd darpariaethau ADY o fewn yr ysgolion
- Darlun gwerth am arian y ddarpariaeth
- Sicrhau cysondeb yn y modd y mae Cydlynwyr ADY yn gweithredu.