Lles Addysg
Darperir y gwasanaeth uchod gan y Gwasanaeth ADY&Ch ar ran awdurdodau Gwynedd a Môn. Fe’i hystyrir gan yr awdurdodau, yn wasanaeth cynhaliol hanfodol, nid yn unig i ddisgyblion a theuluoedd ond hefyd i ysgolion y siroedd.
Prif dasg y Gwasanaeth Lles Addysg (GLlA) yw gweithio gyda rhieni a phlant er mwyn cefnogi presenoldeb rheolaidd disgyblion yn yr ysgol. Mae'r GLlA yn gweithio'n agos gydag ysgolion a gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill i hyrwyddo, annog a gorfodi presenoldeb ysgol rheolaidd plant o oedran ysgol gorfodol.
Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
Derbynnir cyfeiriadau sy’n ymwneud â’r meysydd canlynol:
- presenoldeb plant yn yr ysgol
- plant sy’n colli addysg
- cyflogaeth plant a thrwyddedu (gan gynnwys trwyddedu plant i berfformio)
Cyfeiriadau presenoldeb
Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob plentyn rhwng 5 a 16 oed dderbyn addysg. Unwaith y bydd plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol, dyletswydd gyfreithiol rhieni o dan Ddeddf Addysg 1996 yw sicrhau bod y plentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon.
Os nad yw camau priodol gan yr ysgol yn datrys y broblem presenoldeb neu os oes diffyg cydweithrediad rhieni, yna dylai'r ysgol gyfeirio i'r GLlA.
Ffurflen Gyfeirio GLLA
Fodd bynnag, mae modd i blant a theuluoedd gysylltu hefo’r Gwasanaeth Lles Addysg am gyngor a chefnogaeth am anawsterau gyda phresenoldeb ysgol ar y manylion cyswllt isod.
Cyfeiriadau Plant sy’n Colli Addysg
Mae gan y Gwasanaeth Lles Addysg ddyletswydd statudol i geisio adnabod a lleoli plant oed ysgol statudol rhwng 5 a 16 oed sydd ar goll o addysg.
Mae plant ar goll o addysg pan:
nad ydynt ar gofrestr ysgol (gan gynnwys ysgolion annibynnol)
nad ydynt yn cael eu haddysgu mewn darpariaeth amgen (EOTAS)
na wyddom eu bod yn derbyn addysg addas gartref
nad ydynt yn hysbys i’r Awdurdod Lleol
Cyfeiriad gan aelod o staff ysgol
Rhestr Wirio Ysgol PCA
Cyfeiriad gan weithiwr proffesiynol
Ffurflen Gyfeirio PCA Asiantaeth Partner
Cyfeiriad gan Awdurdod Lleol
Ymholiad Symudiad Disgybl o'r Ardal
Os ydych chi'n aelod o’r cyhoedd ac yn pryderu nad yw plentyn yn derbyn addysg, cysylltwch â ni i drafod yr achos ymhellach.
Manylion cyswllt
Pwy ydi’r tîm:
| Uwch Swyddog Lles Addysg |
|
Tammi Jones
|
| Swyddog Lles Addysg |
|
Angela Owen
|
|
Eleri Wyn Jones
|
|
Sion Owen
|
|
Mirain Haf Williams
|
|
Emily Roberts
|
|
Ceri Ann Jones
|
|
Haf Griffiths-Jones
|
|
Mirain Fflur Davies
|
|
Rachel Bell
|
|
Sharon Parry
|
|
Sioned Hughes Pearson
|
|
Manon Wyn James
|
Adnoddau
-
-
Enw: Fframwaith Presenoldeb.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Arweinlyfr gweithredol i’r Gwasanaeth Lles Addysg
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Prydlondeb - Pam ei fod yn bwysig.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Taflen wybodaeth gan y Gwasanaeth Lles Addysg
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Ffurflen Gyfeirio Gwasanaeth Lles Addysg - Education Welfare Service Referral Form.docx
-
Iaith: Dwyieithog / Bilingual
-
Disgrifiad:
-
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: LLEOLIADAU TIM LLES ADDYSG Tachwedd 2025.docx
-
Iaith: Dwyieithog / Bilingual
-
Disgrifiad:
-
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Taflen Wybodaeth i rieni-gwarchodwyr Presenoldeb Ysgol - Information leaflet for parents-carers School Attendance.pdf
-
Iaith: Dwyieithog / Bilingual
-
Disgrifiad: Gwybodaeth am Bresenoldeb Ysgol gan gynnwys awgrymiadau i'ch helpu chi a'ch plentyn - Information about School Attendance and tips to help you and your child
-
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Attendance Framework.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: An operating toolkit for the Education Welfare Service
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Punctuality - Why it matters.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: Information leaflet by the Education Welfare Service
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho