Cyfathrebu a Rhyngweithio

Pwrpas y tîm :- 

Gwella darpariaeth a chyfleoedd ddisgyblion Niwroamrywiol neu sydd gydag anawsterau cyfathrebu, gan eu harfogi â sgiliau fel y gallent ffynnu yn addysgol a chymdeithasol yn ein hysgolion prif-lif.

 

Sut ydym fel tîm yn cyflawni ein pwrpas:-

  • Cynnig mewnbwn unionyrchol i ddisgyblion drwy leoliad mewn canolfan neu fewnbwn gan Gymorthyddion ac /neu Athrawon Arbenigol .
  • Asesu a monitro cynnydd disgyblion sydd wedi eu lleoli mewn ysgolion prif lif yng Ngwynedd a Môn.
  • Cynnig cynhaliaeth i ddisgyblion sydd yn ei chael hi’n anodd mynychu  ysgol.
  • Chynnig arweiniad, cefnogaeth a hyfforddiant i staff mewn  ysgolion prif lif er mwyn eu harfogi gyda’r sgiliau i allu ymateb i anghenion disgyblion Niwroamrywiol neu gydag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio.

 

Sut mae cael mynediad at wasanaeth y tîm: –

Os oes gennych unigolyn fyddai’n elwa o dderbyn mewnbwn gan y tîm yna bydd angen i’r unigolyn yn gyntaf fynd drwy ‘Ymholiad  ADY’ . Yn dilyn derbyn CDU bydd angen targedu anghenion yr unigolyn am gyfnod o ddau dymor yn y sefydliad addysgol. Os nad ydw’r unigolyn wedi gwneud cynnydd yn ystod y cyfnod o dargedu yna  gellir gwneud cais drwy'r Fforwm ADYaCh am fewnbwn gan y tîm.

Mae mynediad at ein gwasanaeth fel tîm yn seiliedig ar lefel angen unigolyn o fewn sefydliad addysgol, nid ar sail lefel yr angen a welir yn y cartref. Nid oes angen i ddisgybl gael diagnosis i dderbyn mewnbwn gan y tîm.

 

Meini Prawf mynediad a chau / cofnodi monitro'r Gwasanaeth: 

Defnyddir y ddogfen isod fel Meini Prawf agor a chau'r tîm. Wrth gwrs mae oedran a natur anghenion pob unigolyn yn cael eu hystyried yn y penderfyniad. Defnyddir y ddogfen isod  fel cofnod i fonitro datblygiad unigolyn ac fel arweiniad pellach i Ysgolion wrth iddynt dargedu anghenion.

Meini Prawf Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio

 

Gwasanaethau a gynigir gan y tîm: –

Cynnigir arweiniad a hyfforddiant er mwyn datblygu dealltwriaeth staff o’r ymyraethau mwyaf addas i’w defnyddio mewn lleoliadau addysgol er mwyn cefnogi unigolion.

Cynigir yr hyfforddiant isod-

  • Awtistiaeth a’i effaith ar unigolion
  • Sut mae cefnogi disgyblion Niwroamrywiol
  • Sut mae cefnogi disgyblion ag Anhwylder Iaith Ddatblygiadol (Developmental Language Disorder - DLD) 
  • Effaith trawma ar unigolion
  • Datblygu sgiliau cymdeithasol/rhyngweithiol
  • Datblygu sgiliau dealltwriaeth iaith a sgiliau iaith fynegiannol.
  • Hyfforddiant wedi ei teilwrio yn ôl yr angen

Sut rydym yn cynnig hyfforddiant –

  • Modelu ar lawr dosbarth
  • Hyfforddiant grŵp ar ymyraethau penodol
  • Ysgol gyfan
  • Hyfforddiant torfol - dalgylch

 

Pwy ydi’r tîm?
Uwch Athrawes Arbenigol

Delyth Gibbard

Athrawon Arbenigol

Iona Ceiriog

Angharad Walton

Alyson Walsh

Rachel Luxton

Mai Williams

Nia Wyn Jones

Lowri Watkins

Jessica Salisbury

Swyddog Cefnogi Cyfathrebu a Rhyngweithio

Siwan Mair Roberts
Uwch Gymorthyddion Arbenigol

Siwan Roberts

Laura Myles Hughes

Manon Jones

Becca Wynne

Mari Lloyd Roberts

Holly Cunningham 

Katie Allen

Guto Evans

Mared Owen

Lynne Elias

Sasha Leanne Jones

Cymorthyddion Arbenigol

Erin Emlyn Roberts

 

Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?

 

Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?

 

Beth yw rôl yr ysgol?

Mae disgwyl i bob ysgol gynnig cyfleoedd i gefnogi a datblygu sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio disgyblion.

Dylai ysgol:

  • Sefydlu systemau er mwyn targedu unigolion yn ôl eu hangen
  • Ymateb yn ar lefelau gwahanol i anghenion disgyblion drwy gynnal grwpiau targed
  • Defnyddio offeryn sgrinio er mwyn adnabod meysydd mae unigion angen cynhaliaeth ychwanegol
  • Ymateb yn raddoledig i anghenion disgyblion drwy gynnal grwpiau targed
  • Datblygu awyrgylch dysgu sy’n gyfeillgar a chynhwysol i unigolion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio
  • Datblygu awyrgylch sy’n caniatáu amser i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio addas o fewn diwrnod ysgol

 

Gwefannau defnyddiol:

 

Adnoddau

 

Ieithoedd arwyddion a systemau arwyddion - Canllaw cyflym i Iaith Arwyddion Prydain a systemau arwyddo fel Makaton, Signalong a Cymraeg/Saesneg a gefnogir gan arwyddion