Dyddiad: 18/02/2026
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Gareth Morgans fel arweinydd annibynnol i gynnal adolygiad o'r ddarpariaeth eiriolaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru.
Mae arolwg byr i rieni a gofalwyr ar agor i gasglu adborth ar y ddarpariaeth Eiriolaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech helpu i hyrwyddo’r arolwg hwn drwy eich rhwydweithiau, er mwyn sicrhau bod lleisiau rhieni a gofalwyr yn cael eu clywed.
Mae’r adborth a gesglir yn bwysig i ddeall profiadau presennol ac i lywio gwelliannau yn y dyfodol i wasanaethau eiriolaeth ADY.
I gwblhau'r arolwg ewch i:
Arolwg Eiriolaeth i rieni a gofalwyr – Ffurflen i gwblhau
Am ragor o wybodaeth ynghylch y yr adolygiad cenedlaethol o ddarpariaeth eiriolaeth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, gweler: Penodi arweinydd annibynnol ar gyfer yr adolygiad cenedlaethol o ddarpariaeth eiriolaeth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru - Erthyglau - Hwb
Pa ddarpariaeth Eiriolaeth ADY sydd ar gael yn lleol?
Gall teuluoedd Gwynedd ac Ynys Môn gael mynediad at Wasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth ADY. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan SNAP Cymru ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol ar gyfer plant a’u rhieni neu ofalwyr a phobl ifanc sydd ag (neu sydd o bosibl ag) anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys datrys anghytundebau ac eiriolaeth ADY ar gyfer plant a phobl ifanc.
Yma yng Ngwynedd ac Ynys Môn, mae SNAP Cymru yn darparu ein gwasanaeth eirioli annibynnol er mwyn derbyn cyngor a gwybodaeth arbenigol, trwy gynrychiolaeth neu fel arall, i blentyn neu berson ifanc, gan gynnwys cyfaill achos plentyn.
Pamffled SNAP Cymru - Anghenion Dysgu Ychwanegol - Eiriolaeth Annibynnol