Deddf ADY

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Cafodd ddeddfwriaeth i greu dull newydd ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ei basio ar y 24 Ionawr 2018 - sef Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Pecyn cymorth i rieni a gofalwyr plant ag anghenion dysgu ychwanegol - mae'r pecyn yn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru a’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc.

Fersiwn hawdd ei darllen: Canllaw i rieni a gofalwyr plant ag anghenion dysgu ychwanegol: fersiwn hawdd ei darllen

 

Mae'r ddeddfwriaeth newydd wedi trawsnewid y system ADY yng Nghymru, trwy wella'r gwella’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc. Mae'r newidiadau hyn ar waith o fis Medi 2021 ymlaen. 

 Mae’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) wedi'i ddisodli gan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Digwyddodd hyn rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2025.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu fideo a thaflenni gwybodaeth sy’n helpu egluro’r newidiadau.