Arsylwi ac Asesu Blynyddoedd Cynnar (ABC)
Beth ydy'r Gwasanaeth ABC?
Mae ABC yn golygu Arsylwi ac Asesu yn y Blynyddoedd Cynnar.
Gwasanaeth gan Awdurdodau Addysg Gwynedd a Môn i blant yn y blynyddoedd cynnar yw’r gwasanaeth ABC. Mae’n rhan o’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADYaCh)
Mae’n wasanaeth ar gyfer plant oed Dosbarth Meithrin y mae’r Panel Cymedroli wedi eu hadnabod fel plant sydd gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Beth mae'r gwasanaeth yn ei gynnig?
Canolfan ABC
Lleoliad mewn canolfan arbenigol os yw’r anghenion yn cwrdd â’r meini prawf mynediad.
Mae’r Ganolfan ABC yn cyfri fel 10 awr addysg fel sydd mewn ysgol. Mae’ r plant yn rhannu lleoliad gyda’r Ysgol Prif Lif.
- Mae pob plentyn yn unigol ac felly nid oes rheolau pendant yn eu lle am faint o amser bydd y plant yn mynychu'r dosbarth ABC. Bydd hyn yn cael ei adolygu yn gyson.
- Panel Cymedroli sy’n gwneud y penderfyniadau hyn. Mae’r plant wedi cael eu trafod yn y Panel Cymedroli ac wedi cael cynnig lleoliad yn y Ganolfan ABC ar sail eu hanghenion dysgu ychwanegol sy’n cyrraedd Meini Prawf lleoliad ABC.
Bydd mewnbwn manwl ar y Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol /Targedau unigol y plant er sicrhau y bydd y plant yn cael y gefnogaeth briodol ar gyfer datblygu eu sgiliau a’u hannibyniaeth i’r dyfodol.
- Bydd y tîm ABC yn monitro cynnydd y plant drwy ddefnyddio Proffil Tracio Cynnydd ABC /Meini prawf Gwasanaeth ABC.
- Mae’r Rhieni yn cymryd rhan bwysig iawn yn y penderfyniadau ac mae trafodaethau yn cymryd lle ar hyd y broses.
- Cyflwyno’r grŵp o blant i sefyllfa dosbarth. Paratoi’r plentyn ar gyfer addysg llawn amser.
- Staff sydd wedi arbenigo mewn ystod o anghenion ac sydd yn gyfarwydd ag arsylwi, asesu a hybu sgiliau iaith, chwarae, hunanofal, corfforol ,chymdeithasol a synhwyraidd y plant.
- Cyfleoedd i blentyn ddilyn ei ddiddordebau ei hun a dilyn strategaethau ‘Ga i ymuno hefo chi? Er hyrwyddo sgiliau cyfathrebu cymdeithasol. Defnyddir dulliau dysgu trwy chwarae.
- Ymyrraeth gynnar i roi’r cyfleoedd a phrofiadau addas i’r plant o’r cychwyn cyntaf.
- Cyfleoedd cyson i gysylltu â thrafod targedau/strategaethau gyda Rhieni. Defnyddir yr App Class Dojo i wneud hyn yn ogystal â sgyrsiau wyneb yn wyneb.
- Cyfleoedd i drafod a chyd gynllunio gydag asiantaethau megis Therapyddion Iaith a Lleferydd, Nyrs Arbenigol ,DERWEN ayyb.
- Cyfle i bob plentyn ddatblygu ar ei lefel ei hun. Mae’r staff ABC yn cefnogi Rhieni wrth weithio ar sgiliau toiledu ac yn darparu rhaglen doiledu ac yn newid clytiau yn y Ganolfan.
- Mae’r dosbarth ABC yn llunio a gweithredu targedau syml ar gyfer datblygu sgiliau cynnar e.e. toiledu, sgiliau chwarae a chymdeithasu, targedau Iaith a chyfathrebu.
- Mae cyfleoedd i wahanol asiantaethau megis Therapyddion Iaith a Therapyddion Ffysio ddod i’r dosbarth ABC a chefnogi’r plentyn. Mae staff yr ABC yn cydweithio hefo pob asiantaeth sydd yn ymwneud â’r plentyn.
- Bydd Seicolegydd yn ymweld ag yn cynnal trafodaethau i sicrhau darpariaeth hir dymor.
Gwasanaeth Ymestyn Allan ABC Gwynedd a Môn
Mae’r gwasanaeth ymestyn allan yn rhan annatod o bob tîm ADY gan gynnwys y Tîm ABC.
Mae’r Panel Cymedroli ar sail tystiolaeth yn argymell y byddai'r plant yn elwa o fewnbwn arbenigol tîm ABC yn yr ysgolion.
Ymweliadau gan Athrawon a cymorthyddion sydd wedi arbenigo mewn ystod o anghenion ,ac sydd yn gyfarwydd ag arsylwi, asesu a hybu sgiliau iaith, chymdeithasol, chwarae, hunanofal, corfforol a synhwyraidd plant blwyddyn Meithrin.
• Rôl y Tîm ABC yw ymestyn allan i Ysgolion Gwynedd a Môn er mwyn asesu unigolion, cynghori a chefnogi drwy fodelu ac Uwch-sgilio staff mewn ysgolion.
• Bydd amlder yr ymweliadau yn amrywio yn unol ag anghenion y plentyn a natur y ddarpariaeth sydd yn yr Ysgol.
Beth yw'r mewnbwn?
-
Arsylwi, asesu ac ymgynghori gyda staff y dosbarth gan fodelu y defnydd o strategaethau ac adnoddau gweledol o fewn darpariaeth cyffredinol.
-
Arsylwi ac asesu ac ar sail hynny gwneud yn siŵr bod arweiniad a hyfforddiant penodol ar gael i ysgolion gynllunio’n effeithiol i gefnogi anghenion y plentyn.
-
Rhannu argymhellion ac ymyraethau sydd wedi’u teilwra ar lefel unigol i gefnogi anghenion y plentyn. Modelu i rannu arfer dda er mwyn cefnogi disgybl i gyflawni targedau.
-
Cefnogi staff ysgolion i gynllunio a paratoi’r plentyn ar gyfer addysg llawn amser.
-
Rhannu strategaethau , adnoddau gan modelu arfer dda i rai sydd yn rhannu lleoliad Canolfan ABC ac Ysgol. Cynnig ymweliadau i’r Canolfannau i arsylwi.
-
Cynghori a chefnogi staff ysgol yn ystod adolygiadau CDU .
-
Yn dilyn ymweliad bydd cofnodion ar y system CDU - tab Cyfarfod.
-
Bydd Adroddiadau - Proffil Tracio / Meini prawf ABC yn cael eu diweddaru’n dymhorol ar y system CDU.
-
Mae cyfleoedd i Therapyddion Iaith ymweld ag ysgolion ar y cyd gyda’r Staff ABC er mwyn asesu, darparu targedau ac adnoddau addas ar eu cyfer.
Sut mae plant yn cael eu cyfeirio ?
Pan gaiff ei ddwyn i sylw’r Awdurdod Lleol y posibilrwydd fod gan blentyn yn y Blynyddoedd Cynnar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), rhaid i’r Awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn ADY ai pheidio. Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar sydd yn cydlynu’r trefniadau efo’r lleoliadau Blynyddoedd Cynnar er mwyn caniatáu Awdurdod Lleol wneud y penderfyniad.
Yn dilyn penderfyniad o ADY bydd y plant yn cael eu trafod mewn Panel ABC cyn cychwyn yn y dosbarth Meithrin.
Panel Cymedroli sy’n ystyried pob cais yn unigol cyn dod i benderfyniad ar sail y dystiolaeth sydd wedi dod i law.
Mae’n rhaid i’r anghenion gwrdd â’r meini prawf mynediad.
Sut mae ysgolion yn cyfeirio unigolion atom?
Yn dilyn cyfnod o weithredu, byddent yn cychwyn ymholiad ADY os yn bryderus am blentyn yna gellir gwneud cais i’r Fforwm ADY.
Pwy ydi’r tîm?
| Uwch Athrawes Arbenigol |
|
Einir Rees Jones
|
| Athrawon Arbenigol |
|
Sioned Rhys Griffiths
|
|
Delyth Roberts
|
|
Nia Wyn Evans
|
|
Bethan Haf Hughes
|
|
Denise Edwards
|
|
Angharad Mair Jones
|
| Uwch Gymorthyddion Arbenigol |
|
Sasha Walsh Davies
|
|
Sara Ellis Roberts
|
| Cymorthyddion Arbenigol |
|
Jade Hayes-Hallsworth
|
|
Sian Buckley Jones
|
|
Emma Dryhurst
|
Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?
Mae cydweithio agos yn cymryd lle hefo Seicolegydd Addysgol. Maent yn dod i’r dosbarth ABC er mwyn dod i adnabod y plant, cynnig syniadau a strategaethau ac yn cyfrannu tuag at y cyfarfodydd Cynllun Datblygu Unigol (CDU).
Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?
Mae cyswllt agos rhwng y gwasanaeth ABC a’r Swyddog Ansawdd dynodedig.
Mae’r Swyddog Ansawdd ar gael i hwyluso a chydlynu trosglwyddiad plentyn o’r dosbarth ABC i’r Ysgol.
Cludiant
Mae’r Awdurdod Addysg yn gallu trefnu tacsi ar gyfer plant sydd yn byw ymhellach na 2 filltir o’r dosbarth ABC (yn unol â Pholisi Cludiant yr Awdurdod Addysg). Mae’r tacsi yn cludo’r plant i’r dosbarth o’r cartref ac yna yn dod â hwy adref ddiwedd pob sesiwn.
Nid yw pob rhiant yn dymuno defnyddio tacsi. Gwell gan rhai dod â’u plentyn eu hunain.
Adnoddau
-
-
Enw: Canolbwyntio a gwrando - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Chwarae - Cymorth Gartref.pdf

Enw: Cyn geiriau - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Deall iaith - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Defnyddio geiriau a siarad - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Lleferydd anwastad - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Lluniau i Rieni.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Lluniau i help Rhieni i ddangos trefn beth sy'n digwydd 'rwan' a 'wedyn' yn y cartref.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Meini Prawf BC Gorffennaf 2021.docx
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Meini Prawf - Mesurydd Mynediad i Gwasanaeth ABC
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Nodyn i Rieni A note for Parents.docx
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Nodiadau i gefnogi RhieniNotes to support Parents
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Tabl - Arweiniad ar ddefnyddio adnoddau gweledol.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Arweiniad ar ddefnyddio strategaethau gweledol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Pamffled Wybodaeth ABC Information Leaflet.pdf
-
Iaith: Dwyieithog / Bilingual
-
Disgrifiad: Gwybodaeth i Rieni am y Gwasanaeth Arsylwi ac Asesu yn y Blynyddoedd Cynnar (ABC) / Information Leaflet for Parents about the Observation and Assessment in the Early Years (ABC) Service
-
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Before words - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Bumpy speech - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Concentrating and listening - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Pictures for Parents.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: Pictures to help Parents explain what is happening Now and Then at home.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Play - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Understanding language - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Using words and talking - Help at home.pdf