Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer adyach.cymru

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i wefan adyach.cymru / Cyngor Gwynedd. 

Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan Cyngor Gwynedd. Mae ein holl gynnwys sy’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau yn hygyrch. 

Cyngor Gwynedd sy’n cynnal y wefan, ac rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu ei defnyddio.  Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan (yn Saesneg) drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiwn fwyaf diweddar o NVDA, TalkBack a VoiceOver)

Gallwch newid maint testun drwy ddefnyddio eich porwr:

Microsoft Edge: dewiswch Settings and more yna dewiswch Zoom in , Zoom out , neu Full screen .
Internet Explorer Windows (gan gynnwys Pocket IE):
 defnyddiwch y ddewislen View – Text Size
Firefox neu borwr gwe arall gan Mozilla: defnyddiwch y ddewislen View – Text Size
Safari: defnyddiwch yr opsiwn View - Make Text Bigger
Opera: defnyddiwch View - Style - User Mode
Internet Explorer Macintosh a Netscape 6 a 7: defnyddiwch y ddewislen View – Text Zoom

Os ydych yn defnyddio llygoden ag olwyn arni, efallai y byddwch yn gallu newid maint y testun trwy bwyso Control neu Command a throi'r olwyn ar eich llygoden.

Mewn rhai porwyr gallwch newid maint y testun drwy ddefnyddio Control neu Command a phwyso + neu –.  


Gallwch hefyd ddewis steil, lliw'r ffont a lliwiau cefndir: 

Microsoft Edge: Yn Windows 11, dewiswch Start    > Settings   > Accessibility  > Contrast themes. 
Internet Explorer Windows (gan gynnwys Pocket IE): defnyddiwch y ddewislen Tools – Internet Options
Firefox neu borwr gwe arall gan Mozilla: defnyddiwch y ddewislen Tools – Options
Safari: defnyddiwch yr opsiwn View - Make Text Bigger
Opera: defnyddiwch y ddewislen View - Zoom
Internet Explorer Macintosh a Netscape 6 a 7: defnyddiwch y ddewislen View – Text Zoom;

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch ydi’r wefan

Rydym yn ymwybodol nad yw rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:

  • nid oes gan rai o’r delweddau testun amgen da
  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid yw rhai o'r fideos hŷn ar y wefan yn cynnwys is-deitlau

Adborth a manylion cyswllt

Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd i’w ddarllen, braille ac yn y blaen, cysylltwch â: 

Byddwn yn ystyried eich cais, ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith. 

 

Rhoi gwybod i ni am broblemau efo'r wefan

Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o wella hygyrchedd ar y wefan. Rydym yn croesawu eich sylwadau ynghylch pa mor hwylus yw'r wefan i'w defnyddio. Os ydych yn dod ar draws problem sydd ddim yn cael ei rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:  GweinyddolADYaCh@gwynedd.llyw.cymru 

 

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.  

 

Statws Cydymffurfiaeth

Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). 

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio a restrir isod. 

 

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw’r cynnwys sydd wedi ei nodi isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd: 

Nid oes gan rai delweddau Testun Amgen, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad at y wybodaeth. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.2 1.1.1 (cynnwys di-destun). Rydym yn anelu i ychwanegu testun amgen ar gyfer pob delwedd erbyn mis Ionawr 2025. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.

Mae rhywfaint o gynnwys fideo ar y wefan heb gapsiynau, disgrifiadau sain / cyfryngau amgen. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.2 meini prawf 1.2.2 Capsiynau, 1.2.3 Sain Ddisgrifiad neu Gyfryngau Amgen, a meini prawf WCAG 2.2 AA 1.2.5 Sain ddisgrifio neu Gyfryngau Amgen. Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn mis Medi 2025.

Mae Peth cynnwys yn gwbl weladwy i ddefnyddwyr mewn rhai amgylchiadau. Ar chwyddo 200%, unwaith y bydd y 'Dewis iaith' wedi'i ehangu, mae ei gynnwys wedi'i dorri i ffwrdd yn rhannol ac nid yw'n gwbl weladwy i ddefnyddwyr. Nid yw'n bosibl i ni unioni hyn gan fod y dewisydd iaith yn ategyn trydydd parti a ddarperir gan Google, ac nid yw'n darparu dewisydd cyson. Felly ni allwn ei dargedu i addasu'r steil. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA 1.4.10 (ail-lif).

Rhaid i fframiau gael enw hygyrch - mae'r ffrâm 'Dewis iaith' yn ategyn trydydd parti sy'n cael ei gynhyrchu'n ddeinamig felly ni allwn olygu ei werth HTML. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.2 AA 4.1.2. (Enw, Rôl, Gwerth).

 

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Dylai dogfennau newydd a gyhoeddwn ar y wefan hon fod yn gwbl hygyrch. Fodd bynnag, gwyddom nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch.

Er enghraifft, mae rhai ohonynt:

  • heb eu marcio mewn ffordd sy'n galluogi defnyddwyr darllenwyr sgrin i'w deall
  • heb eu hysgrifennu mewn Cymraeg clir

Mae rhai o’r rhain yn ddogfennau hanesyddol ac nid ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i'w gwneud yn hygyrch.

Os ydych yn cael trafferth cael mynediad at wybodaeth yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, gallwch gysylltu â ni i ofyn am fformat arall.